Roeddwn yn sgrolio trwy Facebook bore yma, ac roedd ffrind wedi tagio un o’u ffrindiau yn  garedig mewn i bost oedd yn cynnig gweithdai digidol 3 diwrnod. Yr ateb oedd “’Dwi ddim angen gwefan” – digon teg meddyliais, ond wyt ti wir wedi meddwl am hynny? Wrth gwrs mae llawer o fusnesau bach yn meddwl nad oes angen gwefan arnyn nhw ac mewn rhai achosion efallai eu bod nhw’n llygad eu  lle, ond dyma’r farn o’r swyddfa: –

  1. Er nad oes hwyrach, “angen “gwefan arnoch, mae’n rhaid i chi fod ar-lein mewn ryw ffurf – gwnewch yn siŵr bod gennych dudalen Google+ a’ch bod ar fap Google o leiaf. Sicrhewch eich bod yn weithredol ar gyfryngau cymdeithasol a bod gan bobl ryw siawns o ddod o hyd i chi.
  2. Ai’r rheswm nad oes “angen”  gwefan arnoch yw oherwydd byddai y gost neu’r buddsoddiad yn rhy ddrud? Un o’r rhesymau y gwnaethom ddechrau Gwe Cambrian oedd er mwyn cynnig dyluniad gwefan cost-effeithiol, sydd, mewn gwirionedd yn rhatach na phrynu hysbyseb papur newydd yn fisol.
  3. Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae pobl yn dod o hyd i fusnesau y dyddiau hyn? Pa mor aml ydych chi’n gweld copi o’r ‘Yellow Pages’ ar yr aelwyd nawr? Mae pobl dyddia’ hyn yn troi yn awtomatig at Google i chwilio (neu’n gofyn ar gyfryngau cymdeithasol) er mwyn dod o hyd i’r gwasanaethau maent eu hangen, neu’n gofyn i’w ffonau / dyfeisiau cartref. Os nad oes gwefan gennych chi yno, sut mae disgwyl iddynt ddod o hyd i chi?
  4. Nid oes rhaid i wefannau fod yn brosiectau mawr nac yn ddrud. Gallwch gael gwefan poster un dudalen am gost is na gwefan lawn, neu gallwch hyd yn oed adeiladu eich gwefan eich hun – mae llwyth o opsiynau ar-lein ar gyfer hyn, gyda llawer ohonynt yn rhad (heblaw am yr amser rowch iddo).
  5. Mae’n debygol iawn bydd gan eich cystadleuaeth wefan, felly maen nhw’n cael eu darganfod gan eich darpar gwsmeriaid chi. Meddyliwch am wefan fel ffenestr siop sydd ar agor 24/7.