Er i’r newidiadau hyn gael eu rhyddhau ddiwedd 2018, dim ond nawr rydym yn eu gweld ar ein grwpiau’n hunain ar Facebook. Felly beth sy’n digwydd?

Fe welwch fod mentora yn cael ei gyflwyno mewn grwpiau sy’n canolbwyntio ar ddatblygu rhianta, proffesiynol a phersonol.

Fel gweinyddwr grŵp, yna gofynnir ichi greu “rhaglen mentora”. Byddwch yn gallu dewis o ystod o dempledi ar gyfer y rhaglen, er enghraifft datblygu sgiliau, anogaeth / cefnogaeth neu ddatblygiad gyrfaol. Dewiswch yr un sy’n fwyaf perthnasol i’ch grŵp.

Bydd eich aelodau grŵp wedyn yn gallu ymuno, naill ai fel mentor neu fentoraî. Bydd gweinyddwyr y grŵp yn gallu  gydweddu pobl yn barau fydd yn gallu gweithio gyda’i gilydd, trwy’r templed rhaglen a ddewiswyd yn gynharach.

Dim ond y pâr (ac nid y gweinyddwr) all weld y cyfathrebu rhwng y mentor a’r mentoraî.

Mae Facebook wedi cyhoeddi mai’r nod yw adeiladu offer sy’n helpu pobl  dderbyn y gefnogaeth sydd ei angen arnynt. Credwn fod y rhaglen fentora yma yn gyfle gwych i weinyddwyr grŵp a bydd yn nodwedd boblogaidd iawn.