Rydyn ni wedi cael golwg trwy y we fyd-eang i gasglu gyda’i gilydd rhai o dueddiadau gwefan 2021 (go brin y gallwn gredu bod 2020 bron ar ben, mae o wedi hedfan rywsut!?). Felly, beth sy’n sefyll allan? Dyma i chi ein rhestr o’r goreuon o’r hyn a ddarganfuwyd gennym ar-lein, a rhaid dweud, mae’n ymddangos yn gyffrous iawn! Rydyn ni wedi creu gwefannau gyda’r holl dueddiadau hyn, felly rydyn ni’n falch o’u gweld nhw nawr yn ennill eu plwyf. A’r brif neges? MAWR.

Parallex

Bu cryn tipyn o ddefnydd ar hwn ar wefannau dros y blynyddoedd, ond mae wir yn ehangu a dod yn fwy poblogaidd nawr. Cynt, hwyrach mai dim ond rhan di-nod ar dudalen hafan ydoedd, bellach, ymddengys bod parallex yn cael ychydig mwy o sylw nawr wrth i ni gychwyn ar 2021.

Sgrolio Annhraddodiadol

Sgrolio Annhraddodiadol– dim mwy o sgrolio i fyny neu i lawr, beth am ar draws? Yn wir, gwnaeth Next hyn ychydig yn ôl ar wefan eu catalog, ond mae’n dod yn fwy a mwy poblogaidd.

Rwyf hefyd am ychwanegu “bwydlenni annhraddodiadol” hefyd, wrth i ni ddechrau gweld llawer mwy o fwydlenni symudol yn hytrach na’r fwydlen lorweddol draddodiadol ar frig tudalen.

Gradient Colours

Cefais fy synnu rhywfaint trwy weld hyn ar ychydig o wefannau ar gyfer tueddiadau 2021, ond wedi siarad â dylunydd graffeg dibynadwy, mae’n amlwg mai lliwiau graddiant yw’r dyfodol!

Fideos wedi’u mewnblannu

Fideo, fideo, fideo. Rhywbeth byddwn ni i gyd yn y byd marchnata digidol yn rhygnu ymlaen amdano, yn enwedig i’w ddefnyddio ar gyfryngau cymdeithasol. Ond, ydych chi erioed wedi ystyried ymgorffori fideo ar eich gwefan? Efallai fel adran lanio pan fydd ymwelydd yn glanio ar eich gwefan? Efallai ar frig blog neu erthygl fel nad oes angen i gwsmeriaid ddarllen y cyfan. Mae llun yn dweud cyfrolau, felly faint mwy all fideo?

Sparduno Animeiddio Trwy Sgrolio

Dyma un rydym wrth ein bodd hefo, ac a ddefnyddiwyd gennym ar ychydig o wefannau a ddyluniwyd yn ddiweddar. Ydych chi erioed wedi sylwi wrth i chi sgrolio i lawr gwefan sut mae adrannau’n ymddangos neu linellau ‘di cael eu llunio? Mae hyn yn gwneud y wefan yn llawer mwy rhyngweithiol, diddorol a gafaelgar. Gellir disgwyl gweld llawer mwy o hyn yn 2021.

Dyfnder a Dimensiynau

Er bod symlrwydd yn ogystal yn boblogaidd ar gyfer 2021, mae dyfnder a dimensiynau hefyd ar frig y rhestrau. Rhowch groeso i Cysgod, mwy o edrychiad 3D er mwyn ychwanegu ychydig mwy o diddordeb i’r dyluniadau.

Siapiau Haniaethol a Symudiadau

Llawer o smotiau a symudiadau – gwelsom lawer o hyn ar wefannau gydol 2020, ac mae hefyd yn argoeli i fod yn duedd ar gyfer 2021.Er i ni ddweud ‘smotiau’, golyga unrhyw siâp haniaethol mewn gwirionedd. Ymddangos bod Divi wrth ei fodd â hyn!

Troedynnau Mawr

Rydym eisoes yn hoff iawn o droedynnau mawr yma (gweler rhai ni!) a mae hyn hefyd yn ymddangos fel tuedd gryf arall ar gyfer 2021 – hwyl fawr troedynnau bach a helo troedynnau mawr, diddorol, llawn gwybodaeth. Fel byddwn wastad yn dwedu, dyma’r lle olaf medrwch rwydo’ch ymwelwyr a’u cyfeirio ymlaen i’ch gwefan, felly mae’n gwneud synnwyr i chi wneud ychydig o ymdrech yma.