Ydych chi’n cofio  yn ôl yn yr ysgol y pwyslais cryf roddwyd i’r ffaith fod copïo gwaith eich ffrindiau neu gopïo o lyfrau (llên-ladrad)  yn rhywbeth twyllodrus? Os felly, pam fod cymaint o reolwr gwefannau a pherchnogion busnesau bach yn dal i’w wneud? Gwelir ef yn aml; byddwch wrthi’n darllen cwpl o flogiau neu eitemau newyddion gan fusnes bach, ac yna yn sydyn, mae tôn y llais yn newid, mae strwythur y blog yn gweddnewid yn fformat hollol wahanol ac  mae’r eirfa’n yn tynnu’ch sylw. Google cyflym wedyn a  fel arfer dowch o hyd i’r post blog gwreiddiol, a chanfod faint sydd wedi’i gopïo air am air.

Mae hyn yn farchnata diog ofnadwy. Y ffaith yw, nad oes bron unrhyw gynnwys gwreiddiol ar y rhyngrwyd. Bydd mwyafrif y blogiau a ysgrifennir gennym ni yn tarddu o ganlyniad i ymchwil ar-lein, ond byddant yn cynnwys  ein barn a’n profiadau ein hunain. Mae angen bod yn ymwybodol bod copïo cynnwys air am air i’ch gwefan eich hun a goblygiadau pellgyrhaeddol iddo.

Ar wahân i’r ffaith mai  marchnata diog ydyw, gall hefyd gael effaith negyddol ar optimeiddio eich peiriant chwilio, ac fel busnes bach,  dyma’r agwedd o fod ar-lein yr ydych fwy na thebyg yn dibynnu arni.

Cynnwys Dyblyg v Cynnwys Wedi’i  Gopïo

 

Yn ôl yn 2016, gwnaeth Semrush ymchwil  yn seiliedig ar  100,000 o wefannau er mwyn canfod beth oedd y pethau oedd, yn gyffredinol, yn achosi mwyaf o broblemau gyda SEO  .Roedd cynnwys dyblyg ar frig y rhestr, gyda 50% o’r gwefannau hynny’n wynebu problemau cynnwys dyblyg. Yn ôl Google ac erthygl Semrush, cynnwys dyblyg yw lle mae bloc sylweddol o gynnwys o fewn neu ar draws gwefannau naill ai’n cyfateb yn llwyr â chynnwys arall, neu’n * debyg iawn *. Camwn ymlaen i 2019 ac cheir gwahaniaeth allweddol y mae’n hollbwysig ei grybwyll – nid yw cynnwys dyblyg yr un peth â chynnwys wedi’i gopïo.

Cynnwys dyblyg yw pan  allwch weld yr un cynnwys mewn gwahanol leoliadau ar eich gwefan chi. Y ffordd hawsaf o egluro hyn yw meddwl am siop ar-lein. Pan fyddwch chi’n pori’r cynhyrchion ar y siop, bydd URL unigryw ar gyfer hynny a’r cynhyrchion sydd i’w gweld. Os penderfynwch hidlo’r cynhyrchion hynny (er enghraifft, o dan £ 20, neu’r pris isaf i’r uchaf), bydd yr URL yn newid i adlewyrchu’r swyddogaeth chwilio honno – ond mae’r cynnwys yn aros yr un fath.

Ond yn ôl Hobo nid yw Google yn sôn am “gynnwys dyblyg” yn eu Canllawiau Graddio Ansawdd Chwilio, ond maent yn sôn am “gynnwys wedi’i gopïo”.

Mae gan Moz erthygl ragorol am gynnwys dyblyg ar-lein a’r hyn allwch wneud i’w leihau ar eich gwefan eich hun.

 

 

Sut mae cynnwys wedi’i gopïo yn effeithio ar SEO?

 

Os ydych chi wedi darllen ein postiadau am gynnwys o ansawdd,  fe welwch nad yw’n beth doeth i ddefnyddio cynnwys wedi’i gopïo – mae’n dangos i’r peiriannau chwilio nad ydych chi’n creu cynnwys o ansawdd unigryw gellir ei raddio. Mae’r peiriannau chwilio eisoes yn ymwybodol bod y cynnwys wedi’i gyhoeddi  yn rhywle arall o’r blaen.

Os ydych chi’n euog o hyn, mae angen i chi ail-feddwl go iawn os ydych chi’n credu y gallwch  gystadlu â’ch cystadleuwyr a dal i gyrraedd rheng uwch – dim ond un o’r tudalennau sydd â chynnwys dyblyg  fydd peiriannau chwilio yn eu harddangos, oherwydd  maent am ddarparu’r ansawdd chwilio gorau posib i’w defnyddwyr. Dychmygwch pe baech chi’n chwilio  Google a bod y 5 canlyniad gorau i gyd yn gynnwys dyblyg – fyddai hyn yn eich gwneud yn flin hefo’r gwefannau hynny neu wedi’ch cythruddo gyda Google am beidio â darparu canlyniadau chwilio o safon i chi?

Mater SEO arall all godi yw eich diffyg awdurdod o’ch gwefan ar y cyfan – unwaith y byddwch chi’n dechrau copïo (a dyblygu) cynnwys, bydd y tudalennau neu’r postiadau penodol hynny yn dioddef; a gall olygu bydd eich gwefan gyfan yn dioddef gostyngiad mewn traffig organig.

A dyma i chi reswm arall:

Wyddoch chwi bod holl gynnwys y we yn dod o dan cyfraith hawlfraint? Wyddom ni ddim o hynny. Ond yr un yw’r gosb os ydych yn cael eich dal yn copïo cynnwys o wefan arall i’ch un chi – felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gofyn caniatâd, cymeradwy pan fo’r angen a chwarae’n deg.