Wrth i flwyddyn arall fynd heibio, edrychwn ymlaen at 2017 a’r tueddiadau posibl, yn enwedig o ran cyfryngau cymdeithasol ac wrth gwrs, SEO – search engine optimisation.

Mae 2016 wedi gweld ystod o dueddiadau, gan gynnwys optimisation symudol yn dod yn agwedd hanfodol o’ch SEO a hefyd sut gall defnydd o gyfryngau cymdeithasol  effeithio ar eich safle chwiliad. Felly, beth allwn ni wneud yn 2017 i sicrhau twf parhaus a safle SEO gwych?

Optimeiddio Symudol ac AMP

Mae Optimeiddio Symudol yn dod yn fwy fwy pwysig, ac mae’n eithaf amlwg nawr y bydd Google yn edrych tuag at fynegeio symudol-cyntaf ar ganlyniadau chwiliad cyn bo hir. Nawr yw’r amser felly i sicrhau fod eich gwefan yn gwbl ymatebol ar ffônau symudol a thabledi cyn i’r newidiadau hyn ddod  i rym ar raddfa fwy.

Nid yn unig y mae angen i’ch gwefan fod yn ymatebol, ond hefyd eich cynnwys – cyfeirir at hyn fel marcio data strwythuredig (neu Schema Markup), er mwyn helpu Google i ddeall cyd-destun eich cynnwys yn well i’w arddangos yn y canlyniadau chwiliad. Darllenwch fwy am sut y gallwch chi farcio’ch cynnwys trwy Google Guides.

https://developers.google.com/search/docs/guides/mark-up-content

Bydd optimeiddio symudol hefyd yn canolbwyntio mwy ar chwiliadau lleol, gyda’r rhagdybiaeth, os ydych chi’n chwilio ar y pryd, rydych yn debygol o fod yn yr ardal gywir. Gwnewch yn siŵr eich bod yn diweddaru eich tudalennau ‘Google for Business’ a’u bod yn llawn gwybodaeth cyfredol i’ch cwsmeriaid.

Mae Google hefyd yn gweithredu AMP – Tudalennau Symudol Cyflym, a rhagwelwn bydd hyn yn parhau i dyfu, yn enwedig gyda AMP yn arddangos yn uchel iawn mewn chwiliadau ar ddyfeisiadau symudol eisoes. I’r rhai nad ydynt yn gwybod am AMP, gallwch ddarllen mwy ar ein blog yma.

Chwiliad Llafar/llais

Wedi clywed am hyn? Mae’n siŵr  i chi weld llawer o bobl yn gofyn cwestiynau i Siri, Cortana neu Google, ond a  wnaethoch chi erioed ystyried hyn ar gyfer eich gwefan? Mae chwiliad llafar/llais yn sicr yn rhywbeth i  dalu sylw iddo dros y 12 mis nesaf, yn fwy felly ar Bing na Google. Ystyriwch – mae dros hanner pobl ifanc a  41% o oedolion yr Unol Daleithiau yn defnyddio chwiliad llais bob dydd.

Apps Gwe Blaengar (PWAs)

Mae llawer o’r peiriannau chwilio mawr, gan gynnwys Google, yn awgrymu yn gryf p’un a’i trwy  awgrymiadau mewn cynadleddau neu mewn ddatganiadau newyddion, mai cael app gwe ar gyfer eich busnes (er enghraifft gwefan e-fasnach)   fydd  y cam mawr nesaf.

Bing fel Peiriant Chwilio

Dal i feddwl am Google a dim ond Google? Amser meddwl eto, mae Bing bellach yn pweru y chwiliad am Siri ac Alexa, yn ogystal â bod y chwiliad rhagosodedig am Cortana – dyna i chwi niferoedd mawr o ddyfeisiau a defnyddwyr sydd yn defnyddio chwiliad Bing. Peidiwch ag anghofio fod Bing hefyd wedi mopio ar chwiliad llais ar hyn o bryd.

Rhithrealiti (Virtual Reality)

Mae ethau diddorol iawn yn digwydd  ym maes VR ar hyn o bryd, ond a ydych chi wedi dechrau ei ddefnyddio ar gyfer eich busnes? Ystyriwch y ffeithiau hyn:

  • Yn 2016 prynodd Google Eyefluence
  • Ym mis Hydref 2016 lansiodd Google y DailyDream VR Headset
  • Cyflwynodd YouTube fideo 360 gradd (mae Facebook yn cynnig y nodwedd hon hefyd)

Cynnwys Gwerthfawr/Valuable Content

Dro ar ôl tro pan fyddwn yn trafod SEO gyda cleientiaid, rydym yn sylweddoli fod llawer yn dal i gredu bod ennill safle uchel ar beiriant chwilio yn ddibynnol ar  fritho’r cynnwys gyda geiriau allweddol a chysylltu â phob busnes o fewn 100 milltir ar y dudalen Dolenni. Rydym ni wastad yn pwysleisio pwysigrwydd darparu cynnwys cryno,safonol a bydd hyn yn duedd parhaus yn 2017. Ceisiwch osgoi traethodau hir-wyntog  o safon isel – bydd hyn yn lladd pob diddordeb! Anelwch at sgwennu 500 o eiriau y dudalen a’i gwneud yn berthnasol i’r hyn  mae’r dudalen yn ymdrin ag ef a beth mae eich cwsmer eisiau ei ddarllen.