Nawr fod hi’n fis Rhagfyr ac hysbyseb blynyddol John Lewis wedi ymddangos ers ychydig wythnosau, penderfynais fod hi’n amser addas i fyfyrio ar hysbysebion Nadolig ddoe a heddiw. Er fy mod wrth fy modd gyda’r diweddaraf o hysbysebion John Lewis, ac yn dwli ar Edgar y Ddraig (2019) mae na rhywbeth bob blwyddyn yn fy nhynnu yn ôl at Yr Arth a’r ‘Sgwarnog (2013).

Fel darlunydd achlysurol (pan nad ydw i’n brysur yn rheoli’r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer busnes o ddydd i ddydd), efallai bod gen i ogwydd bach tuag at y byd animeiddiedig 2D. Ond peidiwn ag anghofio- un ‘stop motion’ ydyw hefyd (fyddai un o fy ffrindiau agosaf sy’n animeiddiwr byth yn maddau petawn i’n gwneud). Fe’i harweiniwyd hefyd gan un o fy hoff artistiaid 2D – Aaron Blaise (animeiddiwr ar Lion King, Beauty and the Beast, Aladdin, Mulan, Co-Dir. Brother Bear…) felly efallai bod John Lewis yn gwybod yn iawn beth roedden nhw’n ei wneud pan ddewision nhw ef..

Felly, gan ei bod yn hysbyseb sy’n cyfuno fy nghariad at ffilm, darlunio, a marchnata gyda chyffyrddiad o hiraeth plentyndod Disney, does dim syndod fod Yr Arth a’r ‘Sgwarnog yn parhau i fod yn un o’m hoff ffefrynnau erioed.

Ond, ar wahân i’r uchod, pam bod yr hysbyseb yma yn fy nenu pob tro? Wel…

Bob blwyddyn, wrth i’r hydref droi yn aeaf, mae pob un o anifeiliaid y goedwig yn dechrau paratoi ar gyfer amser gorau’r flwyddyn. Fodd bynnag, mae un anifail nad yw erioed wedi ei weld – yr Arth. Oherwydd iddo fwrw’r gaeaf yn cysgu, mae’n methu allan ar yr holl ddathliadau ac yn cysgu trwyddynt bob blwyddyn. Ond eleni, mae ei ffrind, yr Ysgyfarnog, yn benderfynol o roi anrheg iddo na chafodd erioed o’r blaen – y Nadolig.

Dwi wir yn teimlo bod yr hysbyseb yma’n adlewyrchu yr hun mae’r Nadolig yn ei olygu i mi. Fel rhywun sydd â theulu gwasgaredig a phrysur sy’n gweithio pob awr, mae’r Nadolig yn aml yn gyfle i ni bwyllo a threulio amser gyda’n gilydd. Mae’n bwysig i ni am y rheswm hwnnw – wrth i mi ysgrifennu hyn, rwy’n clywed geiriau fy nhad yn glir yn fy meddwl: “Mae’r Nadolig yn amser i’r teulu.” Ac mae e’n iawn. P’un a ydych chi’n grefyddol, neu beidio, i ni fel teulu dyna wir ystyr y Nadolig a’r hyn sydd yn ei wneud yn arbennig a chyffrous.

Ond dyma rhywbeth i bendroni drosto. Nid yn unig bo’r hysbyseb yma’n ennyn y teimladau hynny, ond roedd Aaron Blaise ei hun hefyd yn ailuno gyda’i hen deulu Disney i greu’r hysbyseb – mae’n llawn o’r motiff pwysig hwnnw o’r dechrau i’r diwedd, a dyna sydd yn ei wneud yn arbennig.

Ond heblaw amdano i, beth yw barn eraill ohono? Wel. Yn ôl yn 2019, barnodd Unruly mai Yr Arth a’r ‘Sgwarnog oedd “hysbyseb Nadolig John Lewis mwyaf effeithiol erioed.” Er hynny, yn anffodus, dangosodd y graddfeydd fod yr hysbysebion yn mynd yn llai gafaelgar dros amser (mae’n debyg bod ni’n fel cynulleidfaoedd yn gwybod beth i’w ddisgwyl nawr… )

Daeth “Yr Arth a’r ‘Sgwarnog” i’r brig ar ôl i bron i hanner (48%) y gynulleidfa wylio gael adwaith emosiynol dwys i’r cynnwys. Hysbyseb 2013 hefyd oedd y mwyaf twym galon o holl ymgyrchoedd Nadolig John Lewis – 5 gwaith yn uwch na chyfartaledd y DU. Sgoriodd hefyd yr uchaf ar y cyd am ffafriaeth brand, gyda’r bwriad o ddarganfod mwy ac mae dair gwaith mwy trist na’r hysbyseb cyfartalog yn y DU.

Er hynny, nid hon enillodd y teitl “mwyaf tebygol o wneud i chi grio.” Nage, hysbyseb enwog 2015 – Dyn ar y Lleuad aeth a hi– yn wir roedd yr hysbyseb ddeg gwaith yn fwy trist na’r hysbyseb cyfartalog (Unruly 2019) tra bod Buster y Bocsiwr yn cael ei rhestru fel yr un oedd “mwyaf tebygol o wneud i bobl wenu” (Unruly 2019).

Eto i gyd, nid Unruly yn unig ddaeth i’r casgliad yma, mewn arolwg barn Metro 2019 daeth Yr Arth a’r ‘Sgwarnog i’r brig eto – gyda’r pôl yn dweud bod 23% wedi graddio Yr Arth a’r ‘Sgwarnog fel hysbyseb Nadolig John Lewis orau erioed, gyda Monty the Penguin a Buster y Bocsiwr yn ail ar y cyd gyda 16% yn honni mai nhw oedd y gorau.

Yn ogystal, cyrhaeddodd clawr Lily Allen o Somewhere Only We Know, y gân a ymddangosodd yn yr hysbyseb, rif un yn Siart Senglau’r DU, y drydydd sengl rhif un i Lily Allen. Yn wir, mae’n dal i fod yn un o’m hoff ganeuon Nadolig i (ac rwy’n dychmygu, llawer o bobl eraill) bob blwyddyn. Clawr ydyw o gân wreiddiol gan Keane, a dywedodd Tom Chaplin, lleisydd y band, wrth y Daily Star: “Mae hi’n ffan mawr, ac roedden ni’n gwybod y byddai’n gwneud fersiwn wych. Dwi’n meddwl bod yr hysbyseb cartŵn yn hyfryd. Mae fel Watership Down heb y gwaed.” – sydd, mae’n debyg, yn un ffordd o’i ddisgrifio…

Felly, dyna ni, mae’n debyg y bydd llawer rhannu yr un teimladau a mi tuag at y Nadolig ac yn sicr, ar ôl COVID, mae’r cyfan yn fwy amlwg. Er ein bod wedi ein hamgylchynu gan argyfyngau costau byw ac ar ôl poendod COVID, mae’n bwysig cofio nad oes angen prynu teulu. Mae’r amser hwnnw gyda’n gilydd yn bwysig ac er gwaethaf y rhuthr i brynu’r anrheg y Nadolig hwn, mae’r ymdeimlad yna yn bwysig iawn i lawer.

Efallai bod marchnata hyn i bobl dros y prynu, prynu, prynu yn fwy llwyddiannus a dilys nag oedden ni’n credu gyntaf.

Gwyliwch yr hysbyseb yma!

Dyma sut y cafodd ei wneud!