Fel merch ym myd busnes fy hun, roedd yn brofiad gwych i weithio gydag Amy Whistance ar ei menter newydd a’i gwefan newydd: Empowerment Coaching! Roedd Amy eisiau gwefan oedd yn ffres, oedd yn adlewyrchu eu brand ac yn defnyddio ei ffotograffiaeth a’i fideo yn effeithiol; ond roedd ganddi neges glir hefyd i’w gyfleu i bob un o’i hymwelwyr. Mae’r hafan yn ddeinamig, gyda digon o symud ond dim byd rhy herciog, ac mae wir yn helpu i wneud i’r ymwelydd deimlo’n gyfforddus.

Dyluniwyd hyn drwy ddefnyddio WordPress, ac mae hyn wedi caniatáu i Amy ychwanegu at y wefan – mae ardal aelodaeth wedi’i chynllunio ar gyfer y dyfodol, hidlwr gwerthiant a chwis! Ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld sut mae’r wefan yn datblygu.

Ymwelwch â’r wefan yma: https://empowermentcoaching.uk/