Mae Gwe Cambrian Web yn ehangu gorwelion gyda lansiad ein busnes marchnata digidol newydd, Digida sy’n ymroddedig i bob peth digidol a marchnata!

O ble daeth y syniad? Yn ystod sesiwn rhwydweithio arbennig dros goffi rywbryd yn 2017, awgrymwyd y dylem “shiftio” neu symud ein marchnata digidol i fusnes newydd, hynny yw cadw ffocws gwefan Gwe Cambrian ar greu a datblygu gwefannau tra bod y busnes newydd yn ffocysu ar agweddau cyfryngau cymdeithasol a digidol y busnes. Po fwyaf feddyliwyd am y syniad, mwyaf byd ymddangosodd fel dilyniant rhesymol i ni, yn enwedig gan ein bod nawr mewn sefyllfa i gyflogi prentis hefyd!

Yr enw? Wedi’i fathu yn ystod taith hir i Gernyw – meddyliwyd am y gair ‘digital’ ac roedd hefyd wrth gwrs angen darganfod rhywbeth sy’n ddwyieithog. Yn y pen draw, cafodd “digital” a “da” eu cyfuno i greu “Digida”. Mae “Da” yn dda yn Gymraeg, ac wrth gwrs y Gymraeg ar gyfer “digital” yw “digidol”.  Mae’r gair Digida felly yn gweithio yn y Gymraeg neu’r Saesneg! Yn fuan roedd wedi ennill ei blwyf a dyma dechrau dylunio a chynllunio’r brand.

Beth am ymweld a’r  wefan newydd: digida.co.uk a rhoi gwybod i ni beth yw eich barn!