Ddydd Gwener diwethaf roeddem  yng Nghanolfan Catrin Finch yn Wrecsam ar gyfer rowndiau terfynol rhanbarthol Gwobrau Busnes Gwledig 2019 – Cymru a Gogledd Iwerddon. Roeddem wedi cyrraedd rhestr fer – Busnes Gwledig Gorau o safbwynt Digidol, Cyfathrebu neu’r  Cyfryngau ledled y rhanbarth ac roeddem wrth ein boddau i gyrraedd yr ail safle a derbyn  tlws a thystysgrif  – llongyfarchiadau i’n ffrindiau yn Animated Technologies am ddod i’r brig,  a hwy fydd yn chwifio’r faner dros Gymru yn y Rownd Derfynol Genedlaethol fydd yn digwydd ar ddechrau 2020.

Roedd yn ddiwrnod hyfryd o rwydweithio (digon o gacennau a swigod), ac yn wych gweld cymaint o fusnesau o ardal Ceredigion ar y rhestr fer hefyd. Da iawn i bawb am gyrraedd y rownd derfynol, daliwch ati gyda’r gwaith anhygoel ar draws pob un o’r gwahanol gategorïau!