Mae Gwe Cambrian Web yn 6 heddiw! Lle mae’r amser wedi mynd, ers i ni cychwyn y busnes o’r ystafell sbar nol yn 2013!

Yn y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi ennill gwobrau am fod y busnes arlein orau, ein mentergarwch, a wedi cael ein cydnabod am ein creadigrwydd. Gan ddefnyddio ein 18 mlynedd o brofiad cyfunol yn y diwydiant, rydym wedi gweithio gyda mudiadau anhygoel yma yng Nghymru i ddatblygu eu presenoldeb arlein a gwthio eu busnes yn bellach.Rydym yn angerddol am hynny – ag yn anelu i alluogi Cymru i gael presenoldeb sylweddol ar y tirwedd ddigidol.

A, gan ei bod yn benblwydd arnom, basem wrth ein boddau i wneud hynny i chithau hefyd. Hoffem gynnig, i’r 6 person nesaf i gysylltu gyda ni, bargen wych. Gwefan safonol, i gynnwys gwe-letya, a parth am £600.00.

Yn ychwanegol gallen gynnig unai mis am ddim o’n pecyn “Sibrwd” trwy ein chwaer gwmni Digida – sef marchanta ar un cyfrwng cymdeithasol, crefftu postau yn benodol i’ch busnes ag ymateb i sylwadau a negeseuon ar eich rhan, i sicrhau y berthynas rhyngoch chi a’ch darpar gwsmer.

Neu – gallen gynnig pecyn gofal ar gyfer eich gwefan am 3 mis, sydd yn gwneud yn siwr fod meddalwedd eich gwefan wedi ei ddiweddaru, cadarnhau diogelwch eich gwefan, a bod copiau wrth gefn rheolaidd fel ei fod yn ol ar ei draed os oes unrhyw broblem. Rydym yn cael Cymru a’r Gymraeg arlein, a byddem wrth ein boddau yn dod a chi gyda ni.

Felly, cysylltwch gyda ni heddiw ar ein ffurflen gais…